EIN GWAITH

EIN GWAITH

GWOBRWYO

Mae Scene & Word yn codi arian at lansiad Gwobr Jonah Jones, er mwyn helpu artistiaid ifanc.



ACHUB

Mae Scene & Word yn ymgyrchu i arbed celfweithiau cyhoeddus pwysig gan Jonah Jones sy’n wynebu bygythiadau gan gynlluniau datblygu newydd neu ddymchwel neu ddirywiad. Buom yn gweithio gydag arbennigwyr o’r Ganolfan Gwydr Pensaerniol (CGP) yng Ngholeg Celf Abertawe i symud murlun enfawr Y Bont (a ddangosir yma mewn stordy diogel) o’r blocdwr yng Ngholeg Harlech cynt. Ers hynny rydym ni wedi ymgyrchu i ddarganfod cartref newydd i’r murlun yng Nghymru. Mewn partneriaeth gyda’r CGP buom yn gweithio gydag Esgobaeth Wrecsam mewn prosiect gwerth cyfanswm o £66,000 i ail-leoli deuddeg o ffenestri dalle de verre o’r eglwys gaeëdig ym Morfa Nefyn i Eglwys Dewi Sant, yr Wyddgrug. Mae Alun Adams, arbennigwr blaenllaw mewn cadwraeth a chyn gydlynydd y CGP, yn aelod o fwrdd cyfarwyddwyr S&W.


CADWRAETH AC ADNEWYDDU

Mae Scene & Word yn ceisio gwarchod ac adnewyddu gweithiau llai gan Jonah Jones mewn perchnogaeth cyhoeddus neu breifat y mae eu cyflwr wedi dirywio. Fe drefnodd S&W gydag arbennigwyr ar gampws Llanbedr Pont Steffan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i adnewyddu dau o’i gerfluniau hwyr, Bethel 1 (Jacob ym Mheniel) a Bethel 2 (a ddangosir yma), ar gyfer arddangosfa ganmlwyddol yn 2019. Mae cerflun arall sy wedi dioddef difrod gan y tywydd, Dad-blygu (rhodd ystad cyn noddwr), mewn stordy yn Llanbedr yn aros am adnewyddu.


ARDDANGOS

Mae Scene & Word yn cydweithredu gydag orielau celf i drefnu arddangosfeydd o waith gan Jonah Jones. Rydym wedi helpu curadu arddangosfeydd ôl-syllol o’i waith yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd (‘Y Gair’, 2013) ac (a ddangosir yma) Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog, Pwllheli (arddangosfa ganmlwyddol o gynnyrch oes, 2019), gyda benthyciadau sylweddol o gasgliadau Scene & Word a’n cyfarwyddwyr. Arddangoswyd hefyd arysgrifau dyfrlliw yn Oriel Myrddin, Caerfyrddin, a Neuadd Gregynog, Tregynon, Y Drenewydd.

CURADU

Y mae gan Scene & Word oriel arlein, Oriel Jonah Jones, sydd yn casglu, dosbarthu a dangos delweddau o’i holl gorff o waith drwy ei yrfa:

  • Cerfluniaeth
  • Gwydr
  • Lluniau
  • Arysgrifau
  • Mosaigau
  • Cyfryngau eraill

CYHOEDDI

Mae Scene & Word yn cyhoeddi llyfrau, printiau dyfrlliw, cynnwys digidol a chyfryngau eraill gan Jonah Jones neu amdano fe. Mae ein rhestr wedi cynnwys argraffiad cyfyngedig i gasglwyr, An Artist’s Life in Wales, gyda thri phrint cain maint llawn, llyfr wedi’i rwymo gan law, a disg cryno yn cynnwys deunydd prin digidol a hen ffilm deledu; The Gregynog Journals, llyfr newydd wedi’i seilio ar ddyddiaduron darluniadol yr artist; a chyfres fforddiadwy o brintiau llai Giclée ar bapur celf. Rydym yn ychwanegu at ein detholiad o nwyddau yn Siop Scene & Word yn rheolaidd.

CREU CYNNWYS

Mae Scene & Word yn creu a chyfrannu cynnwys gwreiddiol am Jonah Jones ar gyfer cyhoeddwyr, radio a theledu. Peter Jones, ei fab ac un o’n cyfarwyddwyr, yw awdur y bywgraffiad Jonah Jones: An Artist’s Life a chasgliad golygedig o lythyrau gan Jonah, Dear Mona: Letters from a Conscientious Objector, ill ddau yn gyhoeddiadau gan Seren Books. Mae Peter a chyfarwyddwyr eraill wedi cyfrannu i raglenni teledu a radio gan BBC Radio Cymru, S4C a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

SIARAD

Croesewir gwahoddiadau i sgwrsio’n gyhoeddus am Jonah Jones gan Scene & Word. Mae ei fywgraffydd Peter Jones wedi darlithio ym Mhrifysgol Bangor, Amgueddfa Cymru, Cymdeithas Celfyddydau Cyfoes Cymru, Llyfrgell Ganolog Caerdydd, Oriel Plas Glyn-y-Weddw a mannau eraill.

ARCHIFO

Mae Scene & Word wedi rhoddi deunydd archifol pwysig yn ymwneud a Jonah Jones i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

© SCENE & WORD. Cedwir pob hawl