Roedd Hedd Dros Wynedd/Peace Across Gwynedd, murlun o lechen a marmor Carrara a grewyd gan Jonah ym 1972 ar gyfer pencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn, ymysg ei gomisiynau mwyaf – dim ond Y Bont yng Ngholeg Harlech oedd yn fwy. Dinistriwyd Hedd Dros Wynedd yn drychinebus yn 2002 yn ystod adnewyddiad gan adeiladwyr, a rwygodd y gwaith oddi ar y wal gan luchio’r darnau ar sgip heb ymgynghori â neb.
Gofynnwyd Comisiynwyd Leah Rolando, ffotograffydd o Dde Affrica, gan Scene & Word i ddatblygu’r detholiad newydd yma o driniaethau ffotograffig o lun gwreiddiol gan Robert Greetham pan oedd y cerflun yn gyfan. Gofynnwyd iddi ddefnyddio lliw cynnil a golygu deinamig er mwyn ysgogi’r profiad o wylio’r murlun yn agos.
Cliciwch botwm PRINTIAU FFOTO (uchod) er mwyn pori fersiynau eraill yn y set hwn.