Adnodd digidol cyfoethog mewn set argraffiad cyfyngedig o 350 gan Scene & Word, yn cynnwys:
Casgliad o ‘gelf gysegredig’ sy’n dangos ystod neilltuol gwaith Jonah Jones mewn capeli ac eglwysi Catholig ar draws Cymru a Lloegr; enghreifftiau godidog o’i brif gomisiynau celf gyhoeddus; a chasgliad syfrdanol o tua 500 o ffotograffau o gerfluniau, gwaith gwydr, arysgrifau, mosaigau a gwaith mewn cyfryngau eraill gan Jonah wedi’u comisiynu’n arbennig gan Stephen Brayne a Robert Greetham.
Teyrngedau a chofiannau personol gan ffrindiau, cydweithwyr a pherthnasau, gyda llu o ffotograffau hanesyddol a chofarwyddion, yn cyfuno i ffurfio cofnod digidol unigryw o un o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru yn yr 20fed ganrif ac o’r cyfnod wedi’r Ail Ryfel Byd yng Nghymru, a thu hwnt.
Rhaglen nodwedd ddogfennol fer am wneuthuriad a dadorchuddio maen goffa Jonah Jones ym Mhortmeirion yn 2006, pryd y rhoddodd yr awdur Jan Morris yr araith gyweirnod.
A nodweddion unigryw eraill.