Oddeutu’r flwyddyn 1990, cododd Jonah lyfr braslunio bach i baentio ynddo gwyddor ryfeddol mewn dyfrlliw, un llythyren ar bob tudalen. Nes ymlaen yn ei fywyd gadawodd e i’w wyrion ei fwynhau. Pan ddaethom ar ei draws, gwnaethom sylweddoli mai dyma rywbeth unigryw. Penderfynwyd ddigideiddio’r holl lythrennau er mwyn creu posteri o’r wyddor gyflawn yn Gymraeg a Saesneg. Ar wynebddalen y llyfr braslunio ’roedd Jonah wedi paentio’r teitl Alphabetum Romanum Jonah – cafodd hwn ei ddigideiddio hefyd er mwyn ei ddefnyddio fel teitl y ddwy wyddor.
Dyma’r wyddor Gymraeg. Cliciwch yma am yr wyddor Saesneg. Cyflwynir y gwyddorion fel posteri A3, mewn mowntiau yn barod i’w fframio.
Alphabetum Romanum Jonah – Cymraeg
Gan Jonah Jones, dyfrlliw, c.1990. Print A3 litho ar bapur sidan 200gsm, mewn mownt cerdyn.
Danfonir archebion o fewn 5–10 diwrnod mewn postwyr cardfwrdd rhychiog.