Pecyn o chwe cherdyn ‘naws Nadoligaidd’ gyda gwaith celf gan Jonah Jones. Delweddau o’r (chwith i’r dde): braslun ger Castell Deudraeth, Portmeirion; y ffenestr fawr yn y capel yng Ngholeg Ratcliffe; y dyfrlliw Tri Dyn ar Fryn yn y Gaeaf; y baldacchino yn Eglwys Sant Padrig, Casnewydd; un arall o’r ffenestr yng Ngholeg Ratcliffe; a braslun ger Neuadd Gregynog, Powys. Bydd yr elw o werthiant y cerdiau yn cyfrannu at Wobr Jonah Jones i artistiaid ifanc.