Treuliodd Jonah 1981–82 gyda chymrodoriaeth yn Neuadd Gregynog, canolfan astudio breswyl Prifysgol Cymru, ger Y Drenewydd, Powys. Dymunai dreulio’r amser yn datblygu ei baentio dyfrlliw, cyfrwng y bu’n ei archwilio dim ond yn achlysurol am lawer blwyddyn. Corff sylweddol o waith oedd y canlyniad, ac mae Tri Dyn ar Fryn yn y Gaeaf yn enghraifft wych ohono. Mae’n cyfosod dyfyniadau o linellau gan John Berryman ar olygfa eiraog Brueghel o helwyr yn ei gerdd ‘Winter Landscape’, llinell gyntaf ‘The Journey of the Magi’ gan TS Eliot, a Salm 147 Adnod 16 yn Saesneg, ac Adnod 17 yn Gymraeg.