Roedd llynnoedd Gwynedd yn ffynhonnell ddwys o ddeunydd i Jonah yn ei flynyddoedd diweddaraf, boed yn ei waith neu er ei hunan les. Bu’n crwydro’r bryniau gyda’i gorfilgi hyd at ei henaint. Ni chafodd unrhyw un yn fwy gwerth chweil na’r pâr o lynnoedd a ddangosir yn Llyn Caseg Fraith a Tryfan / Llyn Cau a Cader Idris. Peintiodd hwy droeon a’u cyfuno megis yma fwy nag unwaith. Mae Llyn Caseg Fraith yn bwll ar lwyfandir rhwng Glyder Fach a Foel Goch, gyda chopa Tryfan yn taranu’n wefreiddiol y tu ôl iddo. Wrth ddarlunio Llyn Cau a Chader Idris, ymunai Jonah â chwmni o fri; mae Richard Wilson yn enwog am baentio’r olygfa, ac fe baentiodd JMW Turner olygfa ychydig islaw’r peiran. Daw’r testun yng ngwaith Jonah o’i lyfr The Lakes of North Wales.