Treuliodd Jonah 1981–82 gyda chymrodoriaeth yn Neuadd Gregynog, canolfan astudio breswyl Prifysgol Cymru, ger Y Drenewydd, Powys. Dymunai dreulio’r amser yn datblygu ei baentio dyfrlliw, cyfrwng y bu’n ei archwilio dim ond yn achlysurol am lawer blwyddyn. Corff sylweddol o waith oedd y canlyniad, ac mae Gwrogaeth i Marianne North yn enghraifft drawiadol ohono. Mae’r llun yn talu teyrnged i’r botanegydd ac arlunydd Fictoraidd y mae ei chofnodion manwl o blanhigion egsotig o amgylch y byd yn llenwi oriel yn Ngerddi Kew.