The Lakes of North Wales

SIOP SCENE & WORD

The Lakes of North Wales

 
 

Roedd The Lakes of North Wales yn un o lyfrau mwyaf poblogaidd Jonah. Roedd yn deyrnged i’r dirwedd arw a luniodd ei fywyd a’i waith a hefyd yn drysorfa o lefydd dirgel y gallai cerddwyr brwdfrydig eu darganfod trwy grwydro oddi ar y llwybr sathredig. Ychydig iawn sy wedi newid yn y dirwedd hynafol hon ers hynny. Dylai’r llyfr barhau i fod yn adnodd ymarferol ardderchog ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Fe’i gyhoeddwyd ym 1983 yn wreiddiol gan Wildwood House, gyda Whittet Books yn ailgyhoeddi’r llyfr ym 1987. Y Lolfa a gyhoeddodd yr argraffiad hwn mewn clawr meddal yn 2002. Wedi i Scene & Word brynu’r stoc o ryw 240 oedd yn weddill gan y cyhoeddwyr, gallwn nawr gynnig y llyfr prin hwn am bris arbennig.

The Lakes of North Wales

Bu Jonah Jones, cerflunydd a llenor, yn crwydro’r llwybrau o gwmpas llynnoedd Cymru am ddegawdau. Wedi’i drwytho yn eu chwedlau a’u llenyddiaeth, geilw ar eu straeon hynafol, eu hwyliau cyfnewidiol a’u gŵydd tirweddol yn y llyfr hwn a ysgrifennwyd gan gerddwr ar gyfer cerddwyr eraill er eu boddhad.

Er ein bod yn codi’r un pris net mewn pob gwlad, noder os gwelwch chi’n dda bod ein prisiau tramor yn adlewyrchu’r cost bythgynyddol o gludo ein cynhyrchion tu allan i’r DU.

Gwerthiant stoc sy’n weddill. ISBN 0 86243 626 5. Danfonir archebion o fewn 5–10 diwrnod mewn pecynnau llyfr cardfwrdd.

View shopping cart
© SCENE & WORD. Cedwir pob hawl.