If you are interested in flowers, lakes, hills, stone, calligraphy, Wales, the early 1980s, Eng. Lit, BBC producers, exhibiting, weather, the Falklands, plaques, sculpture, art, friendship or life, this is the book for you. WYNN WHELDON
Treuliodd Jonah 1981-82 gyda chymrodoriaeth yn Neuadd Gregynog, canolfan astudio a chynadledda Prifysgol Cymru. Ymysg prosiectau eraill bu’n gweithio gydag Eric Gee a David Vickers, Rheolwr Gwasg Gregynog ar y pryd a’i olynydd, ar y llyfr Lament for Llywelyn the Last; Jonah a dyluniodd y tudalen teitl ar gyfer hwn.
Mae’r llyfr hwn yn fersiwn olygedig o’r dyddiadur a ysgrifennodd Jonah yn ystod ei breswyl yng Ngregynog. Mae’n taflu goleuni mewn dull llawn ffraethineb ar fywyd personol a gwaith, ac hefyd ffynonellau ysbrydoliaeth, un o artistiaid mwya poblogaidd Cymru ers y rhyfel. Yn y llyfr ceir dros 50 o frasluniau gwreiddiol gan Jonah wedi’u hatgynhyrchu’n wych. Dyfrlliw yw’r mwyafrif ohonynt, sy’n trin Gregynog, y dirwedd a manylion beunyddiol o fywyd yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru, gyda nifer o arysgrifau arbrofol.
Dyluniwyd y fersiwn clawr meddal hwn o argraffiad cyfyngedig o 350 gan David Vickers ar gyfer Gwasg Gregynog. Fe’i argraffwyd mewn lliw cyflawn ar bapur di-asid, wedi’i mowldio gyda chotwm gan Northend Creative Print Solutions, arbenigwyr arobryn mewn argraffu cain. Yr awdur Judith Maro, priod Jonah, a luniodd y rhagair, tra bod Wynn Wheldon, mab ffrindiau agos y cwpl Syr Huw ac Arglwyddes Jacqueline (Jay) Wheldon, wedi ysgrifennu’r cyflwyniad. Mae pob copi wedi’i rifo â llaw yn unigol.