Roedd yr arddangosfa ganmlwyddol yn 2019 yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog, Pwllheli, yn ddathliad o Jonah Jones fel cerflunydd, llythrennwr, gwneuthurwr gwydr a pheintiwr dyfrlliw, gan gyflwyno enghreifftiau o’i waith ar hyd ei yrfa hir o’r 1940au hyd at flynyddoedd cynnar y ganrif hon. Cyhoeddodd yr oriel gatalog 80 tudalen gyda lluniau hardd sy’n cyflwyno’r gweithiau yn thematig ond hefyd mwy neu lai yn gronolegol. Ysgrifennwyd y testun gan Peter Jones, awdur y bywgraffiad Jonah Jones: An Artist’s Life, a dylunwyd y catalog mewn arddull syml a chlir gyda thestun dwyieithog gan Olwen Fowler.