SIOP SCENE & WORD
Croeso i siop Scene & Word, yn cyflwyno llyfrau gan Jonah Jones, printiau wedi eu atgynhyrchu’n hyfryd o beintiadau ac arysgrifau dyfrlliw, a chynhyrchion eraill – am brisiau fforddiadwy. Mae’r holl incwm yn ddi-elw ac fe’i defnyddir gan Scene & Word i godi arian ar gyfer ein gwaith. Rydym yn ychwanegu rhagor o gynnyrch pan fydd cyllid yn caniatáu.
Ein prisiau: Gwarantir ein prisiau yn y Deyrnas Unedig gan gynnwys TAW. Nid ydym bellach yn prisio ar gyfer Ewrop a Gweddill y Byd oherwydd bod costau cludiant, gofynion tollau ayyb yn rhy anrhagweladwy. Rydym yn croesawu ymholiadau am ein cynnyrch gan gwsmeriaid y tu allan i'r DU a byddwn yn hapus i roi dyfynbris iddynt: ysgrifennwch at sales@sceneandword.org i gael pris cadarn.
Gostyngiadau prisiau: gostyngwyd prisiau mewn glas rhwng 22% a 52%.