NEWYDDION A CHYHOEDDIADAU
16 Rhagfyr 2022
Mae erthygl wedi’i chyhoeddi yn The Leader, papur newydd rhanbarthol ardaloedd Wrecsam a Sir y Fflint, am drosglwyddiad llwyddiannus 12 ffenestr dalle de verre o’r 1960au gan Jonah Jones: https://emea01.safelinks.protection.outlook.com/?url=https%3A%2F%2Fwww.leaderlive.co.uk%2Fnews%2F23174962.historic-stained-glass-windows-get-new-home-flintshire-church%2F&data=05%7C01%7C%7C96b1f46adc214a5676c708dadc5d41c6%7C84df9e7fe9f640afb435aaaaaaaaaaaa%7C1%7C0%7C638064590331241064%7CUnknown%7CTWFpbGZsb3d8eyJWIjoiMC4wLjAwMDAiLCJQIjoiV2luMzIiLCJBTiI6Ik1haWwiLCJXVCI6Mn0%3D%7C3000%7C%7C%7C&sdata=XfVtfsM8SwKSSrNvTbBtLXWAewNtxXHUHlo7ZDiTwMQ%3D&reserved=0
Do you like it?0
1 Rhagfyr 2022
Mae Scene & Word yn falch dros ben i gyhoeddi cwblhad llwyddiannus prosiect cadwraeth celf gyhoeddus sylweddol dros gyfnod o chwe blynedd. Gosodwyd yr olaf o 12 ffenestr adferedig a greuwyd mewn dalle de verre gan Jonah Jones yn Eglwys Dewi Sant, Yr Wyddgrug. Roedd y set olaf o ffenestri […]
Do you like it?0
1 Tachwedd 2022
Mae’r Ganolfan Gwydr Pensaernïol (CGP) yng Ngholeg Celf Abertawe wedi cwblhau’r gwaith o adfer 12 ffenestr dalle de verre ysblennydd gan Jonah Jones. Ar 28 Hydref 2022, cyflwynodd y GGP banel terfynol i Eglwys Dewi Sant, yr Wyddgrug, lle mae’r ffenestri’n cael eu hadleoli. Tra’n cael ei dynnu o’r lleoliad […]
Do you like it?0
25 Hydref 2022
Sawl tro rydym wedi cael gwybod y dylen ni droi delweddau Jonah yn gardiau cyfarch. O’r diwedd, rydym wedi gwneud hynny gyda lansiad chwe cherdyn gyda ‘naws Nadoligaidd’ – eira, angylion, y math yna o beth… Y delweddau a ddewiswyd ar gyfer y set hon o gardiau yw: dau fanylyn […]
Do you like it?0
22 Mehefin 2022
Y pedair ffenestr gyntaf i’w gosod yn Eglwys Dewi Sant, Yr Wyddgrug. Ffotograffau gan Mike Bunting. Mae prosiect sydd wedi cymryd chwe mlynedd i achub, adfer ac ail-leoli set o 12 ffenestr eglwys fawr gan Jonah Jones ar fin dod i ben yn llwyddiannus. Creodd Jonah y ffenestri yn […]
Do you like it?0
21 Mehefin 2022
Gwelwyd yn gyhoeddus y tro diwethaf yn Arddangosfa Canmlwyddiant Jonah Jones yn 2019, arddangosir cerflun Jacob a’r Angel (tywodfaen, 1959) gan Jonah Jones fel rhan o sioe ‘The Bequest of William G. Lewis, 2021’ yn Oriel Glyn Vivian, Abertawe ar hyn o bryd. Mae’r arddangosfa yn parhau hyd Dydd Sul […]
Do you like it?0
7 Ebrill 2022
Nododd Jonah Jones yn gryno yn ei ddyddiadur ar 28fed Chwefror 1988: “It’s William Morgan’s anniversary, and there’s two jobs there.” Ychydig dros ddau fis yn ddiweddarach, ar 9fed Mai, ychwanegodd ei fod wedi “fixed Llanrhaeadr-ym-Mochnant plaques with some success.” Mae’r ddwy lechen gron, sy’n coffáu moment hanfodol yn y […]
Do you like it?0
15 Mawrth 2022
Ar 5ed Medi 1947 yn Haiffa, priododd Jonah Jones â Judith Grossman, merch Iddewon o ddinas Odesa yn Wcráin. Cafodd hithau ei geni yn Dnipro, yng nghanol Wcráin. Yn fuan wedi’r enedigaeth ffôdd y teulu er mwyn dianc o’r rhyfel cartref yn Ymerodraeth Rwsia ar ôl iddi gwympo – hynny […]
Do you like it?0
3 Mawrth 2022
Ail-leolwyd y grog fawr a gerfiwyd yng nghanol y 1960au gan Jonah Jones o’r hen ganolfan encil Jesiwitaidd yn Loyola Hall, Rainhill ar Lannau Merswy yn 2012 i gapel newydd Ysgol St Joseph yn Hurst Green, Swydd Gaerhirfryn. Mae erthygl a gyhoeddwyd ar y pryd ar stpetersstonyhurst.org.uk newydd ddod i’r […]
Do you like it?0
3 Chwefror 2022
Mae darn arall o waith celf “anghofiedig” gan Jonah wedi dod i’r amlwg ar ôl i’w berchennog gysylltu â ni trwy ddolen ‘Hysbyswch ni am waith coll’ yn Oriel Jonah Jones. Yn ôl y perchennog, sydd wedi dewis aros yn anhysbys, prynwyd y cerflun gan ei dad-yng-nghyfraith yn y 1970au. […]
Do you like it?0
3 Chwefror 2022
Daeth dau ddarn arall o waith celf “anghofiedig” gan Jonah i’r amlwg yn ystod 2021 ar ôl iddynt gael eu prynu mewn arwerthiant trwy gwmni Rogers Jones yng Nghaerdydd. Mae’r prynwyr wedi dewis aros yn anhysbys, ond rydym yn ddiolchgar iawn iddynt ill ddau am roi ganiatâd i ni gyhoeddi […]
Do you like it?0
9 Ionawr 2022
Cyhoeddwyd llythyr gan Peter Jones, un o gyfarwyddwyr Scene & Word Cyf, yn rhifyn Gaeaf 2021 O’r Pedwar Gwynt fel ymateb i’r cyfweliad gan Shelagh Hourahane gyda Peter Lord, yr artist a hanesydd diwylliannol, a gyhoeddwyd yn rhifyn Gwanwyn 2021. Awgrymodd Lord yn y cyfweliad bod Jonah ymysg y sawl […]
Do you like it?0
11 Tachwedd 2021
Rydym yn falch o gyhoeddi heddiw ein bod wedi ychwanegu dau gynnyrch i siop Scene & Word Cyf. Oddeutu’r flwyddyn 1990, cododd Jonah lyfr braslunio bach i baentio ynddo gwyddor ryfeddol mewn dyfrlliw, un llythyren ar bob tudalen. Nes ymlaen yn ei fywyd gadawodd e i’w wyrion ei fwynhau. Pan […]
Do you like it?0
11 Hydref 2021
Daethpwyd cam yn agosach at ail-leoli deuddeg ffenestr fawr dalle de verre o eglwys gaeëdig ym Morfa Nefyn i eglwys Gatholig Dewi Sant yn Yr Wyddgrug, Sir Y Fflint, gyda’r newyddion bod yr eglwys wedi derbyn cymhorthdal o £10,000 gan y Pilgrim Trust. Fe fydd y cymhorthdal yn helpu gyda […]
Do you like it?0
27 Awst 2021
Ym mis Gorffennaf 2019 cwblhawyd y broses o drosglwyddo mosaig mawr Jonah Jones, Crist Y Prynwr Sanctaidd, o’i safle gwreiddiol mewn eglwys ym Morfa Nefyn i’w gartref newydd, Ysgol Gatholig Crist y Gair yn Y Rhyl. Dywedodd Michael Rieveley, cyfarwyddwr cwmni Rieveley Ceramics a gyflawnodd yr holl brosiect ar gyfer […]
Do you like it?0
11 Awst 2021
Rhoddwyd caniatâd i adfer deuddeg ffenestr fawr dalle de verre gan Jonah Jones a symudwyd yn 2019 o eglwys gaeëdig ym Morfa Nefyn cyn i’w hail-leoli yn eglwys Gatholig Dewi Sant yn Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. Mae dalle de verre (‘slabyn gwydr’ yn Ffrangeg) yn golygu darnau o wydr […]
Do you like it?0
6 Awst 2021
I gydnabod y ffaith bod UNESCO wedi dynodi tirwedd llechi Gwynedd fel safle treftadaeth y byd, rydym wedi dewis tair enghraifft wych o waith arysgrifen a cherflunio gan Jonah Jones mewn llechen o ardal Gwynedd. I ddechrau, y plac ar gyfer Amgueddfa Goffa Lloyd George, Llanystumdwy, c.1960. Yn ail, 9fed […]
Do you like it?0
31 Gorffennaf 2021
Cyhoeddwyd cyfweliad gan Shelagh Hourahane gyda Peter Lord, yr artist a hanesydd diwylliannol, yn rhifyn Gwanwyn 2021 O’r Pedwar Gwynt. Mae’r sgwrs yn trafod gwaith diwyd Lord i ddatgelu bodolaeth traddodiad celfyddydau gweledol yng Nghymru a wadwyd am flynyddoedd hir. Yn ei thro hithau ysgrifennodd Hourahane erthygl gwych am waith […]
Do you like it?0
27 Gorffennaf 2021
Mae tri darn arall o waith celf anghofiedig gan Jonah wedi dod i’r amlwg dros y misoedd diwethaf ar ôl i’w perchnogion gysylltu â ni trwy ddolen ‘Hysbyswch ni am waith coll’ yn Oriel Jonah Jones. Fe ysgrifennodd Colin Turnbull atom am ddyfrlliw bach anarferol. Mae’r gwaith mewn dull haniaethol, […]
Do you like it?0
23 Tachwedd 2020
Mae Scene & Word wedi dod o hyd i beth allai fod yr unig ffotograff sy’n bodoli o arddangosfa o waith Jonah Jones a gymerodd le yn ei weithdy ar un adeg yn Neuadd y Farchnad, Tremadog ym 1968 neu 1969. Ni adawodd Jonah unrhyw gofnod o’r arddangosfa, ond mae’n […]
Do you like it?0
3 Awst 2020
Yn ddiweddar, defnyddiodd Cymro o’r Gogledd, Mike Lewis, sydd nawr yn byw yn Banbury, Swydd Rhydychen, y nodwedd ‘Hysbyswch ni am Waith Coll’ ar Oriel Jonah Jones i ddod â cherflunwaith bach gan Jonah i’n sylw. Mae’n fersiwn bychan, tua 20 cm o uchder, o Yr Ymdrochwyr, a oedd yn […]
Do you like it?0
1 Ebrill 2020
Trwy ddefnydd ffurflen ‘Hysbyswch ni am waith coll’ mae cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol wedi tynnu sylw Scene & Word at gerflun gan Jonah Jones a oedd hen wedi’i anghofio. Bu John Willcox yn ddisgybl yng Ngholeg Ratcliffe, Swydd Caerlŷr (Leicestershire) ym 1948–54. Ym 1959 derbyniodd Jonah ei gomisiwn mwyaf gan Goleg […]
Do you like it?0
23 Mai 2019
Mae Canolfan y Celfyddydau Taliesin ym Mhrifysgol Abertawe wedi profi nifer o newidiadau mawr dros y blynyddoedd diweddar, a oedd yn cynnwys gwaith adeiladu sylweddol ar a llawr isaf. Tra roedd y gwaith yn mynd ymlaen, cafodd y plac dadorchuddio chweochrog gan Jonah Jones ei roi mewn storfa. Roedd y […]
Do you like it?0