O oedran cynnar ’roedd Jonah yn ddarllenwr brwd. Ar ôl iddo ennill swydd yn llyfrgell gyhoeddus Felling yn 1936, cafodd ei hun “plunged into the world of books. Here lay riches indeed, which would nourish my inner life thereafter.(1)” ’Roedd ei lwyddiant mewn cystadleuaeth ysgrifennu traethawd fel bachgen ysgol yn arwydd cynnar o’i ddawn gyda geiriau. Enillodd le yn Ysgol Uwchradd Sirol Jarrow (ysgol ramadeg yn ddiweddarach) ar ôl iddo basio arholiadau ysgoloriaeth olynol, lle cafodd addysg a’i osododd ar ei ffordd i fyd dysgu, diwylliant a chreadigrwydd.
Trwy gydol ei fywyd fel oedolyn bu’n darllen ac ysgrifennu yn ddyddiol. ’Roedd yn hoff o recordio a myfyrio ar ddigwyddiadau, mewnwelediadau a heriau ei fywyd bob dydd. Gwelir ei fyfyrdodau mewn llythyrau sylweddol at ffrindiau, perthnasau a chydweithwyr, a ysgrifennwyd fel arfer yn ei italig mynegiannol a darllenadwy, neu weithiau eu pwnio braidd yn fras ar deipiadur. Yn y cyflwyniad i Dear Mona: Letters from a Conscientious Objector(2) (gohebiaeth estynedig rhwng Jonah fel gŵr ifanc a’i fentor o Grynwraig, y llyfrgellydd Mona Lovell), mae’r golygydd, Peter Jones, yn disgrifio Jonah fel “a great letter writer all his life, both in the sense of quantity and quality”.
Fel artist dechreuodd Jonah mewn oed gofnodi’r argraffau beunyddiol hyn yn fwy systematig yn ei ddyddiaduron, yn aml gyda brasluniau mewn unrhyw gyfrwng a ddaeth i law. Maen nhw’n ddogfennau hynod ddiddorol, yn llawn bywyd a chreadigrwydd, yn lliwgar, yn fewnblyg o bryd i’w gilydd, yn aml yn ffraeth. Cyhoeddwyd detholiad o rai o’r cyfnodolion niferus sydd wedi goroesi gan Scene & Word yn The Gregynog Journals(3).
Ond pa mor helaeth a mynegiannol ydynt, materion preifat yw llythyrau a dyddiaduron. Bu angen argyfwng dwys mewn bywyd i Jonah wneud y naid i ysgrifennu estynedig ar gyfer cynulleidfa briodol. Ym 1977 cymerodd swydd pedair blynedd fel cyfarwyddwr y Coleg Celf a Dylunio Cenedlaethol yn Nulyn. ’Roedd hyn yn golygu colli’r cyfle i greu: “Unable to actually create, draw, make sculpture, I was afflicted with an inward illness.(4)” Un noson, mewn anobaith, dechreuodd ysgrifennu’n fyrbwyll, “page after page. I found it exciting…” Y noson nesaf, wrth ailddarllen ei ymdrech, taflodd Jonah y cyfan mewn dirmyg o “such unbelievable trash”.(5)” Ond dychwelodd ato gydag “growing obsession”, ac allan o’r holl gythrwfl hwn daeth ei nofel gyhoeddedig gyntaf, A Tree May Fall(6).
Yn ystod ei oes cyhoeddodd bum llyfr. ’Roedden nhw’n cynnwys ail nofel, Zorn(7); arweinlyfr i gerddwyr, The Lakes of North Wales(8); casgliad o draethodau hunangofiannol, The Gallipoli Diary(9); a bywgraffiad o’i gyfaill a noddwr Clough Williams-Ellis, pensaer Portmeirion(10). ’Roedd hyn oll yn gamp drawiadol fel atodiad i yrfa lawn amser fel artist proffesiynol, gan gynnwys tri degawd o wasanaeth cyhoeddus heb ei dalu ar y cyfan.
Isod ceir enghreifftiau o waith Jonah fel awdur. Bydd mwy yn dilyn.
Nodiadau
1. Dyfynnwyd yn Jonah Jones: An Artist’s Life (Peter Jones). Seren, 2011. 2. Dear Mona: Letters from a Conscientious Objector (golygwyd gan Peter Jones). Seren, 2018. 3. The Gregynog Journals (Jonah Jones). Scene & Word, 2010. 4. Llythyr gan Jonah Jones at Cary Archard, 1974. 5. Jonah Jones: An Artist’s Life. Ibid. 6. A Tree May Fall (Jonah Jones). Bodley Head, 1980. 7. Zorn (Jonah Jones). William Heinemann Ltd, 1987. 8. The Lakes of North Wales (Jonah Jones). Whittet Books, 1983. 9. The Gallipoli Diary (Jonah Jones). Seren, 1989. 10. Clough Williams-Ellis: Architect of Portmeirion (Jonah Jones). Seren, 1997.