S&W_combined_logo_squareS&W_combined_logo_squareS&W_combined_logo_square
  • JONAH JONES
    • BYWGRAFFIAD
    • ORIEL JONAH JONES
    • JONAH JONES: LLENOR
  • AMDANOM NI
    • EIN GWAITH
    • DOLENNI
    • CYSYLLTU
  • NEWYDDION
    • NEWYDDION A CHYHOEDDIADAU
    • ERTHYGLAU WEDI’U HARCHIFO
  • SIOP SCENE & WORD
  • ORIEL JONAH JONES
  • ENGLISH
  • Ganwyd Jonah Jones (17 Chwefror 1919–29 Tachwedd 2004) yng ngogledd-dwyrain Lloegr, ond roedd yn hysbys fel cerflunydd, awdur a chrefftwr Cymreig. Gweithiodd mewn sawl cyfrwng, ond mae’n cael ei gofio yn arbennig fel cerflunydd maen, artist llythrennu a gwneuthurwr gwydr.
  • Bywyd
    Ganwyd Jonah ym 1919 yn Wardley, Tyne and Wear, y cyntaf o bedwar plentyn. Leonard Jones oedd ei enw bedyddio. Gŵr lleol a oedd wedi bod yn löwr cyn iddo gael ei glwyfo yn y Rhyfel Byd Cyntaf oedd ei dad; o Swydd Efrog daeth ei fam.
  • Cofrestrodd Jonah yn yr Ail Rhyfel Byd fel gwrthwynebwr cydwybodol, cyn iddo ymuno â’r Fyddin Brydeinig fel anymladdwr. Gweiniodd yn 224 Parachute Field Ambulance, o fewn y 6th Airborne Division, gan gymryd rhan yn ymgyrch yr Ardennes a’r cyrch parasiwtio dros yr Afon Rhine ger Wesel ym mis Mawrth 1945.
  • Yn dilyn ei ddadfyddiniad ym 1947, dechreuodd gyrfa Jonah gan weithio gyda’r artist John Petts yng Ngogledd Cymru. Yn fuan wedyn treuliodd amser byr ond dwys yng ngweithdy y diweddar Eric Gill, ble dysgodd Jonah dechnegau llythrennu a cherfio carreg.
  • Yn y 1950au sefydlodd weithdy llawn-amser – fe oedd un o’r ychydig a lwyddodd i ennill bywoliaeth trwy gelf yn unig yng Nghymru ar y pryd.
  • Celfwaith
    Gweithiodd Jonah mewn sawl cyfrwng, ond gwnaeth argraff yn arbennig fel cerflunydd carreg, llythrennwr a pheintiwr llythrennau gwerinol. Dysgodd dechnegau traddodiadol gwydr lliw a sodr a’r rhai newydd mewn gwydr concrid a dalles de verre. Fel peintiwr dyfrlliw cynhyrchodd gorff o waith rhagorol wedi’i seilio ar lythrennu gwerinol – roedd yr artist a bardd David Jones yn ddylanwad mawr arno yn y maes hwn. Hefyd cyhoeddodd Jonah ddau nofel, gasgliad o draethodau (hunangofiannol gan fwyaf), lyfr gyda lluniau am lynnoedd Gogledd Cymru, a bywgraffiad Clough Williams-Ellis, pensaer Portmeirion.
  • Mae prif gomisiynau cyhoeddus Jonah yn cynnwys gwaith yng nghapeli Coleg Ratcliffe, Swydd Caerlŷr, Coleg Ampleforth, Gogledd Swydd Efrog; a Loyola Hall, Glannau Merswy; Eglwys Gatholig Sant Padrig, Casnewydd; Amgueddfa Cymru, Caerdydd; Coleg Harlech, Gwynedd; a Llys y Goron, Yr Wyddgrug. Yn ei waith preifat mae’r sylw yn disgyn yn enwedig ar ddelweddiad Cristnogol a themau beiblaidd (Jacob yn arbennig), chwedlau’r Mabinogi, tirluniau Gogledd Cymru, a’r ‘Gair’ (“roedd y Gair yn ganolog i’m gwaith”, fel yr esboniodd mewn traethawd ym 1998).
  • Bu hefyd yn gweithio ym maes addysg celfyddyd, gan weini fel asesydd ac arholwr allanol mewn llawer o golegau celf ledled y Deyrnas Unedig o 1961 tan 1992. Am bedair blynedd, 1974–1978, gweithiodd fel pennaeth Coleg Cenedlaethol Celf a Dylunio yn Nulyn, a hefyd fel cyfarwyddwr Gweithdai Dylunio Kilkenny.
  • Llyfrau
    Nofelau: A Tree May Fall, Bodley Head, 1980, ISBN 0370303202; Zorn, William Heinemann Ltd, 1987, ISBN 0434377341. Tywyslyfr: The Lakes of North Wales, Whittet Books, 1983, ISBN 0905483545; ailgyhoeddwyd gan Y Lolfa, 2002, ISBN 0862436265. Traethodau: The Gallipoli Diary, Seren Books/Poetry Wales Press Ltd, 1989, ISBN 1854110101. Bywgraffiad: Clough Williams-Ellis: Architect of Portmeirion, Seren Publishing, 1997, ISBN 1854112147.
  • Cyhoeddwyd ar ôl marwolaeth Jonah Jones:

    Dyddiaduron a llythyrau: The Gregynog Journals, Scene & Word Ltd, 2010, ISBN 9780956431400; ailgyhoeddwyd mewn fersiwn clawr meddal 2019, ISBN 9780956431417; Dear Mona: Letters from a Conscientious Objector, Seren Publishing, 2018, ISBN 9781781724798.