Ganwyd Jonah Jones (17 Chwefror 1919–29 Tachwedd 2004) yng ngogledd-dwyrain Lloegr, ond roedd yn hysbys fel cerflunydd, awdur a chrefftwr Cymreig. Gweithiodd mewn sawl cyfrwng, ond mae’n cael ei gofio yn arbennig fel cerflunydd maen, artist llythrennu a gwneuthurwr gwydr.
Bywyd
Ganwyd Jonah ym 1919 yn Wardley, Tyne and Wear, y cyntaf o bedwar plentyn. Leonard Jones oedd ei enw bedyddio. Gŵr lleol a oedd wedi bod yn löwr cyn iddo gael ei glwyfo yn y Rhyfel Byd Cyntaf oedd ei dad; o Swydd Efrog daeth ei fam.
Cofrestrodd Jonah yn yr Ail Rhyfel Byd fel gwrthwynebwr cydwybodol, cyn iddo ymuno â’r Fyddin Brydeinig fel anymladdwr. Gweiniodd yn 224 Parachute Field Ambulance, o fewn y 6th Airborne Division, gan gymryd rhan yn ymgyrch yr Ardennes a’r cyrch parasiwtio dros yr Afon Rhine ger Wesel ym mis Mawrth 1945.
Yn dilyn ei ddadfyddiniad ym 1947, dechreuodd gyrfa Jonah gan weithio gyda’r artist John Petts yng Ngogledd Cymru. Yn fuan wedyn treuliodd amser byr ond dwys yng ngweithdy y diweddar Eric Gill, ble dysgodd Jonah dechnegau llythrennu a cherfio carreg.
Yn y 1950au sefydlodd weithdy llawn-amser – fe oedd un o’r ychydig a lwyddodd i ennill bywoliaeth trwy gelf yn unig yng Nghymru ar y pryd.
Celfwaith
Gweithiodd Jonah mewn sawl cyfrwng, ond gwnaeth argraff yn arbennig fel cerflunydd carreg, llythrennwr a pheintiwr llythrennau gwerinol. Dysgodd dechnegau traddodiadol gwydr lliw a sodr a’r rhai newydd mewn gwydr concrid a dalles de verre. Fel peintiwr dyfrlliw cynhyrchodd gorff o waith rhagorol wedi’i seilio ar lythrennu gwerinol – roedd yr artist a bardd David Jones yn ddylanwad mawr arno yn y maes hwn. Hefyd cyhoeddodd Jonah ddau nofel, gasgliad o draethodau (hunangofiannol gan fwyaf), lyfr gyda lluniau am lynnoedd Gogledd Cymru, a bywgraffiad Clough Williams-Ellis, pensaer Portmeirion.
Mae prif gomisiynau cyhoeddus Jonah yn cynnwys gwaith yng nghapeli Coleg Ratcliffe, Swydd Caerlŷr, Coleg Ampleforth, Gogledd Swydd Efrog; a Loyola Hall, Glannau Merswy; Eglwys Gatholig Sant Padrig, Casnewydd; Amgueddfa Cymru, Caerdydd; Coleg Harlech, Gwynedd; a Llys y Goron, Yr Wyddgrug. Yn ei waith preifat mae’r sylw yn disgyn yn enwedig ar ddelweddiad Cristnogol a themau beiblaidd (Jacob yn arbennig), chwedlau’r Mabinogi, tirluniau Gogledd Cymru, a’r ‘Gair’ (“roedd y Gair yn ganolog i’m gwaith”, fel yr esboniodd mewn traethawd ym 1998).
Bu hefyd yn gweithio ym maes addysg celfyddyd, gan weini fel asesydd ac arholwr allanol mewn llawer o golegau celf ledled y Deyrnas Unedig o 1961 tan 1992. Am bedair blynedd, 1974–1978, gweithiodd fel pennaeth Coleg Cenedlaethol Celf a Dylunio yn Nulyn, a hefyd fel cyfarwyddwr Gweithdai Dylunio Kilkenny.
Llyfrau
Nofelau: A Tree May Fall, Bodley Head, 1980, ISBN 0370303202; Zorn, William Heinemann Ltd, 1987, ISBN 0434377341. Tywyslyfr: The Lakes of North Wales, Whittet Books, 1983, ISBN 0905483545; ailgyhoeddwyd gan Y Lolfa, 2002, ISBN 0862436265. Traethodau: The Gallipoli Diary, Seren Books/Poetry Wales Press Ltd, 1989, ISBN 1854110101. Bywgraffiad: Clough Williams-Ellis: Architect of Portmeirion, Seren Publishing, 1997, ISBN 1854112147.
Cyhoeddwyd ar ôl marwolaeth Jonah Jones:
Dyddiaduron a llythyrau: The Gregynog Journals, Scene & Word Ltd, 2010, ISBN 9780956431400; ailgyhoeddwyd mewn fersiwn clawr meddal 2019, ISBN 9780956431417; Dear Mona: Letters from a Conscientious Objector, Seren Publishing, 2018, ISBN 9781781724798.