Panel terfynol dalle de verre wedi’i ddanfon i’r Wyddgrug

31 Hydref 2022

Mae’r Ganolfan Gwydr Pensaernïol (CGP) yng Ngholeg Celf Abertawe wedi cwblhau’r gwaith o adfer 12 ffenestr dalle de verre ysblennydd gan Jonah Jones.

Ar 28 Hydref 2022, cyflwynodd y GGP banel terfynol i Eglwys Dewi Sant, yr Wyddgrug, lle mae’r ffenestri’n cael eu hadleoli. Tra’n cael ei dynnu o’r lleoliad gwreiddiol ym Morfa Nefyn, canfuwyd bod un o’r 24 panel wedi dirywio mor ddrwg nes iddo chwalu. Roedd angen ailadeiladu’r panel toredig yn llwyr.

Cam olaf y prosiect fydd gosod wyth o’r ffenestri yn Eglwys Dewi Sant mewn fframiau dur di-staen a gynhyrchwyd gan Dee Tech Services o Benarlâg (Hawarden), dan gyfarwyddyd rheolwr y prosiect Mike Bunting. Gosodwyd y pedair ffenestr arall yn gynharach yn 2022.

Mae dolenni isod i adroddiadau cynharach am gamau amrywiol y prosiect cadwraeth uchelgeisiol hwn.

 

Ffotograff gan Owen Luetchford o’r panel wedi’i ailadeiladu yn barod i’w ddosbarthu