Lansiad set newydd o gardiau gan Jonah Jones

25 Hydref 2022

Sawl tro rydym wedi cael gwybod y dylen ni droi delweddau Jonah yn gardiau cyfarch. O’r diwedd, rydym wedi gwneud hynny gyda lansiad chwe cherdyn gyda ‘naws Nadoligaidd’ – eira, angylion, y math yna o beth…

Y delweddau a ddewiswyd ar gyfer y set hon o gardiau yw: dau fanylyn o’r ffenestr fawr yn y capel yng Ngholeg Ratcliffe; y baldacchino yn Eglwys Sant Padrig, Casnewydd; dau fraslun gaeafol ger Castell Deudraeth, Portmeirion, a Neuadd Gregynog, Powys; a’r dyfrlliw Tri Dyn ar Fryn yn y Gaeaf.

Mae’r cardiau yn mesur 148 x 105 cm a, heb unrhyw neges fewnol, maent yn addas nid yn unig ar gyfer y Nadolig ond ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Maent yn dod ag amlenni hunanlynol ac yn costio £12 yn ein siop (http://www.sceneandword.org/cofio_jonah_jones/cy/scene-and-word-store/other-products/6-cherdyn/), gan gynnwys costau cludo (yn y DU yn unig).

Bydd yr elw o werthiant y cardiau yn cyfrannu at Wobr Jonah Jones i artistiaid ifanc.