Prynu ‘gweithiau coll’ gan Jonah Jones mewn arwerthiant

3 Chwefror 2022

Daeth dau ddarn arall o waith celf “anghofiedig” gan Jonah i’r amlwg yn ystod 2021 ar ôl iddynt gael eu prynu mewn arwerthiant trwy gwmni Rogers Jones yng Nghaerdydd. Mae’r prynwyr wedi dewis aros yn anhysbys, ond rydym yn ddiolchgar iawn iddynt ill ddau am roi ganiatâd i ni gyhoeddi adroddiad am “ail-ddarganfod” y lluniau.

Gwerthwyd braslun bach mewn cyfrwng cymysg, gyda’r teitl Llygad i’r Ynys (Eye to an Island), ar 17 Ebrill. Mae’n dangos syniad am gerflun na chafodd ei wireddu. Mae’r tu chwith yn dwyn label o Oriel Tegfryn ym Mhorthaethwy, a oedd yn gwerthu gwaith gan Jonah o ganol y 1960au ymlaen, ond o farnu arddull y darn gallasai gael ei greu ar unrhyw adeg hyd at y 1990au.  Mae’r delwedd yn dangos ffurf gron ddu – i’n llygiaid ni, mewn cyfnod y pandemig Covid-19, ymddengys yn hynod tebyg i goronafeirws – sy’n fframio ynys neu benrhyn yn eitha tebyg i Ynys Weryn, ger Rhosili ar Benrhyn Gŵyr.

Gwerthwyd dyfrlliw gyda’r teitl Ffynnon Gybi, dyddiedig 1988, ar 6ed Tachwedd. Dengys y gwaith trawiadol hwn y ffynnon hynafol yn Llangybi ar Benrhyn Llŷn. Mae’n debyg bod pererindod i’r ffynnon sanctaidd wedi’i sefydlu’n gadarn erbyn diwedd y Canol Oesoedd – dyma pryd yr adeiladwyd y gwaith maen o’i hamgylch, o bosib. Yn y 18fed ganrif cryfhaodd poblogrwydd y ffynnon diolch i’w henw am nodweddion iachaol y dŵr.

Mae Scene & Word Cyf yn ddiolchgar iawn i Ben Rogers Jones am roi caniatâd i ddefnyddio’r ffotograffau a ddarparwyd gan Rogers Jones Cyf.