Rhagor o noddiant ar gyfer codi ffenestri dalle de verre ar ôl eu hadfer

7 Hydref 2021

Daethpwyd cam yn agosach at ail-leoli deuddeg ffenestr fawr dalle de verre o eglwys gaeëdig ym Morfa Nefyn i eglwys Gatholig Dewi Sant yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint, gyda’r newyddion bod yr eglwys wedi derbyn cymhorthdal o £10,000 gan y Pilgrim Trust.

Fe fydd y cymhorthdal yn helpu gyda chostau lleoli’r ffenestri adferedig yn Eglwys Dewi Sant. Bwriedir codi wyth o’r ffenestri mewn fframiau wedi’u hadeiladu’n arbennig a’u gosod mewn agoriadau ffenestr sy’n bodoli yn barod. Fe fydd y bedair sy’n weddill yn cael eu gosod ar y wal mewn blychau golau [lightboxes] gyda goleuon LED tu fewn.

Mae gwaith adfer y ffenestri, a wnaethpwyd gan Jonah Jones yng nghanol y 1960au, yn parhau yng Nghanolfan Gwydr Pensaerniol, Coleg y Celfyddydau Abertawe.

Un o’r ddeuddeg ffenestr