‘Atgyfodiad’: ail-leoli dramatig mosaig mwyaf Jonah Jones

27 Awst 2021

Ym mis Gorffennaf 2019 cwblhawyd y broses o drosglwyddo mosaig mawr Jonah Jones, Crist y Prynwr Sanctaidd, o’i safle gwreiddiol mewn eglwys ym Morfa Nefyn i’w gartref newydd, Ysgol Gatholig Crist y Gair yn y Rhyl.

Dywedodd Michael Rieveley, cyfarwyddwr cwmni Rieveley Ceramics a gyflawnodd yr holl brosiect ar gyfer Esgobaeth Gatholig Wrecsam: “Wnes i ymgynghori â chydweithwyr a gwneud ymchwil eang, ond methais ddod o hyd i unrhyw gofnod bod unrhywun wedi cyflawni rhywbeth o’r fath o’r blaen.”

Mae’r hanes o sut cododd y cynllun, a llwyddiant Rieveley Ceramics wrth ei gwblhau, yn arbennig o ddiddorol. Mae e hefyd yn esiampl werthfawr o’r broses hynod gymhleth o adfer ac ail-leoli celfwaith cyhoeddus o ganol yr 20fed ganrif, hanner ganrif yn ddiweddarach.

Gellir darllen hanes Michael Rieveley, a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar wefan y Sefydliad Cadwraeth (Institute of Conservation, Icon), ar y ddolen yma: https://1drv.ms/b/s!Amq5aa8ReV7ahd9Ri8SYnmVHZtEFiw?e=PP98OR