Jonah Jones a’r tirwedd llechi Gwynedd, nawr safle treftadaeth y byd UNESCO

6 Awst 2021

I gydnabod y ffaith bod UNESCO wedi dynodi tirwedd llechi Gwynedd fel safle treftadaeth y byd, rydym wedi dewis tair enghraifft wych o waith arysgrifen a cherflunio gan Jonah Jones mewn llechen o ardal Gwynedd.

I ddechrau, y plac ar gyfer Amgueddfa Goffa Lloyd George, Llanystumdwy, c.1960.

Yn ail, 9fed Safle’r Groes yn Eglwys Joseff Sant, Pwllheli, 1982. Ffotograff gan Stephen Brayne.

Yn olaf, Hedd Dros Wynedd, mewn llechen a marmor Carrara, ar gyfer Pencadlys Heddlu Gogledd Cymru, Bae Colwyn, 1972 (dinistriwyd yn 2002). Ffotograff gan Robert Greetham.