,

Rhagor o ‘weithiau coll’ gan Jonah Jones

27 Gorffenaf 2021

Mae tri darn arall o waith celf anghofiedig gan Jonah wedi dod i’r amlwg dros y misoedd diwethaf ar ôl i’w perchnogion gysylltu â ni trwy ddolen ‘Hysbyswch ni am waith coll’ yn Oriel Jonah Jones.

Fe ysgrifennodd Colin Turnbull atom am ddyfrlliw bach anarferol. Mae’r gwaith mewn dull haniaethol, wedi’i lofnodi gan Jonah ond heb ddyddiad, o’r 1960au mwy na thebyg. Ar y cefn mae’r teitl mewn llawysgrif Jonah, Wrestling Jacob (Ymgodymu â Jacob). Prynwyd y darn yn wreiddiol am 10 gini o Oriel Tegfryn ym Mhorthaethwy. Fe’i etifeddwyd gan Colin o’i daid, a oedd yn athro celf yn Lerpwl ac yn artist lled-broffesiynol gyda bwthyn gwyliau yn Ngogledd Cymru a, fel Jonah yn ei flynyddoedd iau, yn ymddiddori yn y Crynwyr. O bosib roedd y ddau ddyn yn adnabod ei gilydd.

Ymgodymu â Jacob (Wrestling Jacob), 1960au. Llun gan Colin Turnbull.

Yn ddiweddarach clywsom gan Louise Stanley am gerflun bach sy’n amlwg iawn gan Jonah. Fe gafodd ei gerfio mewn tywodfaen coch, ac mae’n ddienw, er i ni gytuno â chyfeiriad Louise ato fel “dawnswraig”. Mae’r arddull a’r cyfrwng yn nodweddiadol o waith Jonah yn y 1950au cynnar neu canol, ac mae’n enghraifft da o’r cyfnod. Cred Louise mai Peter a Megan Jones – cymdogion agosaf a ffrindiau i Jonah a Judith – a roddodd y darn i’w theulu hi.

Cerflun o ddawnswraig, o’r 1950au canol mwy na thebyg. Llun gan Louise Stanley.

Yn fwyaf diweddar cysylltodd Richard Walwyn â ni ynglŷn â dyfrlliw o bwll neu lyn gyda lili’r dŵr. Cred Richard mai Llyn Tecwyn Isaf, filltir a hanner o gartref Jonah ym Minffordd, yw’r golygfa. Cafodd y gwaith gan fframiwr yng Nghaerdydd, a ddywedodd wrtho bod y llun wedi cael ei roi iddo ef “dros ugain mlynedd yn ôl”. Mae’n mesur tua 12 modfedd o led a 22 modfedd o uchder, a mae Richard yn deall ei fod yn dyddio o ddiwedd y 1990au, er y gallai fod yn gynharach.

Dyfrlliw o lili’r dŵr, efallai o’r 1990au hwyr. Llun gan Richard Walwyn.

Mae’n hyfryd cael clywed am y darnau anghofiedig yma ac ’rydym yn ddiolchgar i Colin, Louise a Richard am gysylltu â ni ac am anfon ffotograffau atom ni. Gobeithio cawn glywed am lawer mwy o ‘weithiau coll’ yn y dyfodol.