Apêl Oriel Plas Glyn-y-Weddw

3 Awst 2020

Mae Scene & Word wedi cefnogi apêl ar-lein am roddion i Oriel Plas Glyn-y-Weddw, lle cynhaliwyd arddangosfa canmlwyddiant Jonah Jones yn 2019.

Wrth i Blas Glyn-y-Weddw groesawu cwsmeriaid yn ôl ar ôl bod ar gau am gyfnod helaeth yn ystod argyfwng Covid-19, maent yn dibynnu’n helaeth ar gefnogaeth y cyhoedd i gadw’r oriel a’r caffi ar agor er mwynhad pawb. Mae’r holl gamau angenrheidiol yn cael eu cymryd i sicrhau diogelwch ymwelwyr.

Mae Plas Glyn-y-Weddw yn elusen gofrestredig. Mae canran enfawr o’i hincwm bob blwyddyn yn dod trwy roddion preifat a gweithgarwch masnachol drwy’r caffi, arwerthiannau arddangos, y siop a llogi ystafelloedd. Nawr, fel erioed, mae angen iddynt ddiogelu dyfodol yr elusen. Ar ôl i’r argyfwng rhyngwladol hwn dod i ben bydd angen am Blas Glyn-y-Weddw o hyd i barhau â’r gwaith amhrisiadwy a wnânt yn eu cymuned.

Bydd unrhyw roddion, waeth pa mor fawr neu fach ydynt, yn cael eu derbyn drwy eu tudalen Go Fund Me: https://oriel.us1.list-manage.com/track/click?u=963c824caab3b704dedc3e866&id=70a04a4cb3&e=3e79814a8b