Ail-ddarganfod ‘gweithiau coll’ gan Jonah Jones

Ail-ddarganfod ‘gweithiau coll’ gan Jonah Jones

Trwy ddefnydd ffurflen ‘Hysbyswch ni am waith coll’ mae cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol wedi tynnu sylw Scene & Word at gerflun gan Jonah Jones a oedd hen wedi’i anghofio.

Bu John Willcox yn ddisgybl yng Ngholeg Ratcliffe, Swydd Caerlŷr (Leicestershire) ym 194854. Ym 1959 derbyniodd Jonah ei gomisiwn mwyaf gan Goleg Ratcliffe. Gofynnwyd iddo lenwi capel newydd cyfan, a rhannau eraill o’r ysgol hefyd, gyda phob math o gelf: “altar, organ grilles, candlesticks, statues, stained glass, all sorts of things,” fel y disgrifiodd e‘n hwyrach yn Welsh Artists Talking (Golygydd: Tony Curtis. Seren Books, Penybont ar Ogwr, 2000).

Cefnwr oedd Willcox, a chwaraeodd dros Loegr ym 196164, gan weini fel capten hefyd. Harlequins oedd ei glwb a chwaraeodd teirgwaith hefyd ar daith y Llewod Prydeinig i Dde Affrica ym 1962. Ar ôl ymddeol fel chwaraewr gweithiodd am gyfnod hir fel athro a hyfforddwr rygbi yng Ngholeg Ampleforth, ble hyfforddodd Lawrence Dallaglio (Lloegr) a’r brodyr Simon a Guy Easterby (Iwerddon ill ddau).

Dengys y cerflun chwaraewr rygbi wrthi’n taclo un arall. Mwy na thebyg fe’i gomisiynwyd gan y Tad Claude Leetham, prifathro Ratcliffe ym 194862. Mae Willcox yn cofio rhoi crys rygbi Lloegr i’r ysgol ym 1962, a chreda mai ymateb Leetham i hwnnw oedd anrhegu’r cerflun. Sut bynnag, mae Pedr Jones, bywgraffydd Jonah, yn tybio bod y gwaith wedi’i gerfio yn ddiweddarach na 1962: “Dwi’n meddwl mai ym 196364 y cafodd ei greu. [Hwyrach nes ymlaen eto ym marn Willcox.] … Gŵr prysur iawn oedd Jonah trwy gydol y 1960au, ac mae’n amlwg ei fod wedi cerfio’r darn yn sydyn iawn (gweithiwr cyflym oedd e beth bynnag) er mwyn bodloni Claude Leetham – mae hwn i’w weld yn null a gorffeniad y gwaith… P’run bynnag mae’r driniaeth hon yn effeithiol iawn mewn darn sy’n crynhoi cyflymdra a symudiad wedi’u rhewi mewn chwinciad o amser.”

Ffotograff gan John Willcox

Daeth celfwaith coll arall gan Jonah i’r golwg ychydig o wythnosau cynt pan gysylltodd John Peredur Hughes â Scene & Word, sef dyfrlliw cain o Foel-y-Gest o Ystumllyn, ar gyrion gorllewinol Pentrefelin lle bu teulu’r Jonesiaid yn byw ym 195166. Roedd John Peredur yn byw drws nesa i’r teulu fel plentyn. Ym 1954 y paentiwyd y llun.

Ffotograff gan John Peredur Hughes