Cartref newydd yn Y Rhyl i fosaig Jonah Jones

12 Gorffenaf 2019

Mae mosaig mawr Crist Atgyfodedig, a safodd cynt tu ôl i’r allor yn Eglwys Atgyfodiad Ein Prynwr ym Morfa Nefyn (a gauwyd yn 2016), wedi dechrau ail fywyd yn y Rhyl.

Comisiynwyd cwmni o arbennigwyr mewn gosod teils, Rieveley Ceramics o Waunfawr, ger Caernarfon, gan Esgobaeth Wrecsam i symud y mosaig mewn rhannau bychain a’u gosod mewn haen sment, fel y’i disgrifiwyd mewn adroddiad cynharach (gweler isod).

Wrth iddo ymchwilio a chynllunio ar gyfer y dasg drom yma, gofynnodd cyfarwyddwr y cwmni, Michael Rieveley, i Scene & Word am unrhyw wybodaeth am ddulliau gwneuthuriad Jonah pan greodd y mosaig gwreiddiol ym 1966. Fe gofiodd Naomi, merch Jonah, a oedd heb gyrraedd ei harddegau eto ar y pryd, bopeth yn glir ac ysgrifennodd at Michael fel a ganlyn:

“Mi fydd Michael yn gwbod hwn i gyd dwi’n siwr, ond dyma sut sylwais fy nhad yn gwneud mosaigs, jyst rhag ofn fy mod i wedi cofio rhywbeth defnyddiol.

Mi gafodd y cynllun terfynol ei lunio ar bapur brown (dwi ddim yn siwr os mai papur arbenigol oedd hwn neu ddim ond papur brown lapio trwchus) a wedyn cafodd y cynllun ei dorri mewn darnau cyfagos. Ar hyn o bryd roedd y cynllun y tu ol ymlaen.

Mi lynwyd y teils gwydr (gyda’u hymylon siamffrog yn wynebu i fyny) yn eu lle ar y papur brown yn eu rhannau, gan ddefnyddio yr hyn dwi’n meddwl oedd yn lud sail-dwr (PVA?) eitha cyffredin a sychodd yn dryloyw. Cafodd bob rhan ei gwblhau yn yr un modd.

Nesa, cafodd pob rhan ei bastio drosodd (dros ochr siamffrog y teils gwydr eu hunain) gyda sment teil gwyn – glud fel growt – a’i lynu yn ei le ar y wal. Cafodd yr holl rhannau eu glynu ar y wal yn eu priod safleoedd.

Bu rhaid i hwn i gyd sychu’n llwyr. Pan oedd o’n gyfangwbl sych, gwlychodd Jonah y papur brown a’i blicio i ffwrdd. Basa rhai o’r teils yn disgyn i lawr yr adeg hwn, neu’n dod i ffwrdd gyda’r papur brown, felly dyma fo’n glynu nhw’n ‘nol gyda mwy o’r sment gwyn.

Y cam ola ar ol i bopeth sychu eto oedd growtio rhwng blaen siamffrog pobteil unigol trwy bastio mwy o’r sment dros pob rhan, a wedyn ei lanhau oddi ar y teils gan adael y growt rhwng pob un teil.

Meddaf eto, bydd Michael yn gwbod yn bendant am hyn i gyd gan mai dull eitha safonol o wneud mosaigs oedd hwn, felly peidiwch ag ystyried be’ dwi wedi sgwennu fel unrhyw fath o wybodaeth technegol arbennig!”

Ar ol tynnu’r mosaig i lawr, cludodd Rieveley Ceramics yr holl beth i’w gartref newydd, Ysgol Gatholig Crist y Gair (Christ The Word Catholic School), a fydd yn derbyn plant o’r oedran 3 i 16 gan gymryd lle dwy hen ysgol oedd cynt yn sefyll drws nesa i’r safle newydd yn y Rhyl.

Dengys y ffotograffau isod (diolch i Michael Rieveley amdanynt) y mosaig yn cael ei ailosod ynghyd yn y Rhyl a wedyn y darn wedi’i gwblhau, sydd eisiau “dim ond ychydig o atgyweirio man a glanhau”.

Mae’n rhaid i Scene and Word Cyf ganmol Esgobaeth Wrecsam am sicrhau bod hyn oll wedi cael ei gyflawni. Fe fuasai wedi bod yn hawdd iawn i symud y 12 ffenestr dalle de verre yn unig o’r eglwys ym Morfa Nefyn (mae rhain yn brosiect cwbl ar wahan o symud, adnewyddu ac ail-leoli – gweler isod) a gadael y mosaig fel problem rhy anodd i’w thrin. Ond roedd yr Esgobaeth yn prisio’r holl waith fel ei gilydd. Mae ei hagwedd yn esiampl prin iawn o sut i warchod celf cyhoeddus o’r ugeinfed ganrif hwyr ar adeg pan fo nifer o’r adeiladau safon-isel a oedd yn aml yn cynnwys y celf yn dod i derfyn eu bywyd naturiol. Diolch hefyd i David Hughes o Lawray Architects, Wrecsam, am ei gyfraniad mawr i’r prosiectau hyn.