Sybil Crouch

8 Ionawr 2020

Clywsom gyda thristwch y newyddion bod Sybil Crouch, a fu gynt yn Gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, wedi marw yn ddiweddar. Bu’n gwasanaethu fel cynghorydd Llafur yn Abertawe, ac fe’i disgrifiwyd gan Rob Stewart, arweinydd Cyngor Abertawe, fel “ymgyrchydd angerddol, cynghorydd ymroddedig a gweithgar [a] chefnogwraig selog i’r celfyddydau yn Abertawe”.

Fel Pennaeth Gwasanaethau Diwylliannol yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin ym Mhrifysgol Abertawe o 1991 tan 2019, trefnodd Sybil arddangosfa un-dyn mawr ola Jonah Jones yn gynnar yn 2004. ‘Scene and Word’ oedd y teitl a ddewiswyd i’r achlysur gan Jonah, enw sy’n parhau er cof trwy ein cwmni.

Un o weithredoedd ola Sybil cyn iddi ymddeol oedd sicrhau bod dyfodol plac Jonah sy’n coffhau agoriad Taliesin ym 1984 wrth ben rhestr o orchwylion i’w holynydd Steve Williams. Roedd Scene & Word wedi cysylltu â hi i fynegi pryder bod y plac heb gael ei ail-osod ar ôl adnewyddu sylweddol ar lawr gwaelod y ganolfan celfyddydau. Fel yr adroddwyd gennym ni yn gynharach, “Rydym yn ddiolchgar iawn i Sybil a Steve am eu hymdrechion llwyddiannus i sicrhau dyfodol hir dymor i un o’r ychydig o ddarnau o waith cyhoeddus gan Jonah yn ail ddinas Cymru.”